Newyddion S4C

Bachgen 12 oed a'i daid wedi marw tra ar wyliau ym Mhowys

27/09/2024
 Kaicy Rakai Zelden Brown, 12 oed, a'i daid David, 66 oed

Bu taid a'i ŵyr farw tra'r oedd y ddau ar wyliau teuluol yn gwersylla yng nghanolbarth Cymru.

Cafwyd hyd i Kaicy Rakai Zelden Brown, 12 oed, a'i daid David, 66 oed, yn ddiymadferth mewn pabell ar fore Sadwrn 14 Medi. 

Roedd y teulu, oedd yn dod o Early yn Berkshire, wedi teithio 200 milltir i’r maes gwersylla ym Mhowys ac wedi aros dros nos cyn i’r digwyddiad trasig ddigwydd.

Er bod yr amgylchiadau ynghylch marwolaeth David Brown yn parhau i fod yn aneglur, mae ymchwiliadau yn parhau. 

Roedd archwiliad post mortem i farwolaeth ei ŵyr a gynhaliwyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn amhendant, ac mae profion pellach, gan gynnwys profion am wenwyn carbon monocsid, ar y gweill.

Fe wnaeth yr ysgol gynradd lle'r oedd Kaicy'n ddisgybl tan yn ddiweddar, Ysgol Gynradd Sonning, roi teyrnged iddo, gan ddweud: "Roedd Kaicy yn fachgen caredig, meddylgar, emosiynol ac ymwybodol a oleuodd ystafell gyda'i wên a'i synnwyr digrifwch. 

"Roedd hefyd yn artist eithriadol o dalentog a gwnaeth ei sylw i fanylion ac ymrwymiad anhygoel i’w waith argraff arnom. Mae llawer o'i ddarnau yn dal i gael eu hongian o amgylch yr ysgol."

Mewn ymgyrch godi arian ar ran y teulu, dywedodd ffrindiau mam Kaicy eu bod yn ceisio cefnogi'r teulu wedi i'r "annirnadwy" ddigwydd:

"Ar 15 Medi digwyddodd yr annirnadwy i'w mab Kaicy, 12 a'i thad. Bu farw o wenwyn carbon monocsid ar daith wersylla.

"Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at gostau angladd, cofeb a ffioedd cyfreithiol gan fod Jess eisiau dod â’i bachgen adref."

Llun: Facebook

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.