Rhybudd melyn am law i siroedd de a chanolbarth Cymru
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer glaw yn ne a chanolbarth Cymru fore Gwener.
Bydd y rhybudd mewn grym tan 09:00 yn dilyn cyfnodau o law trwm yn yr ardaloedd hyn ddydd Iau.
Gallai rhai ardaloedd weld 40-60 mm o law mewn ychydig oriau a allai fod yn ddigon i achosi llifogydd.
Mae siawns fach y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd, a gallai cymunedau gael eu hynysu gan ffyrdd sydd dan ddŵr.
Mae perygl hefyd o doriadau mewn cyflenwadau trydan meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Gwiriwch a allai eich eiddo fod mewn perygl o lifogydd,” meddai llefarydd. “Os felly, ystyriwch baratoi cynllun llifogydd a phecyn llifogydd brys.
“Rhowch y cyfle orau i chi'ch hun o osgoi oedi trwy wirio cyflwr y ffyrdd os ydych chi'n gyrru, neu amserlenni bysiau a threnau, gan newid eich cynlluniau teithio os oes angen."
Mae’r rhybudd yn berthnasol i’r siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg