Dedfrydu dynes gafodd ei hanafu mewn gwrthdrawiad ger Dolgellau
Mae dynes gafodd ei hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger Dolgellau yn gynharach eleni wedi cael ei dedfrydu.
Ymddangosodd Claire Williams, 41 oed, o Glawdd Ponciau yng Nghorwen yn Llys Caernarfon ar ôl pledio’n euog i yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A494 ger Rhydymain ychydig cyn 02:00 ar ddydd Sadwrn, 13 Ebrill.
Roedd yr unig gar yn y gwrthdrawiad, Ford Focus lliw du, yn cael ei yrru gan Williams ar y pryd.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam i ddechrau ond cafodd ei symud yn ddiweddarach i ysbyty yn Stoke oherwydd difrifoldeb ei hanafiadau.
Arhosodd yn yr ysbyty tan fis Mai.
Yn dilyn canlyniadau profion tocsicoleg, cafodd Williams ei chyfweld lle cyfaddefodd mai hi oedd gyrrwr y cerbyd ar adeg y gwrthdrawiad.
Roedd canlyniadau ei phrofion yn dangos ei bod dros y terfyn alcohol a’i bod wedi cymdryd cocên cyn y gwrthdrawiad.
Cafodd ei chyhuddo o yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau a chafodd ei dedfrydu ddydd Mercher.
Derbyniodd oorchymyn cymunedol 12 mis, 120 diwrnod ar gyfnod Ymatal Alcohol a Monitro Gofyniad, 20 diwrnod o weithgaredd sdsefydlu, a'i gwahardd rhag gyrru am 32 mis.
Cafodd hefyd orchymyn i dalu £85 mewn costau.