Arestio llanc 18 oed wedi marwolaeth dyn ifanc yn Wrecsam
Mae llanc 18 oed wedi arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn yn Wrecsam.
Cafodd dyn 19 oed ei ganfod wedi marw mewn eiddo ar ffordd Eglwysfan yn Rhosymedre nos Sul.
Cafodd y dyn 18 oed ei arestio yn fuan wedyn ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Chris Bell o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein hymholiadau'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, ond hoffwn sicrhau'r gymuned leol bod hwn yn ddigwyddiad ynysig, ac nid oes rheswm dros bryderu ymhellach.
“Rwy'n ymwybodol bod lluniau graffig iawn wedi cael eu dosbarthu'n eang ar y cyfryngau cymdeithasol, a byddwn yn rhybuddio aelodau o'r cyhoedd rhag rhannu hyn ymhellach.
“Ar hyn o bryd mae Swyddogion Cyswllt Teuluol yn rhoi cymorth i deulu'r dioddefwr, ac allan o barch, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd rhannu dim gyda’r cyhoedd ehangach a allai achosi poendod pellach, neu yn wir ragfarnu unrhyw achos posibl yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw wedi'i gyfyngu i enwi neu ddyfalu pwy yw unrhyw unigolion sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad hwn."
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth gan ddefnyddio’r cyfeirnod Z099697 wrth gysylltu.