Newyddion S4C

Ffermwyr yn galw ar archfarchnadoedd i 'gefnogi cynnyrch lleol'

ffermwyr farmwashing.png

Mae ffermwyr wedi ysgrifennu at chwe archfarchnad fwyaf y DU, gan alw arnyn nhw i gefnogi cynhyrchwyr lleol.

Mae'r ymgyrch Farmers against Farmwashing yn honni bod archfarchnadoedd mawr yn defnyddio cwmnïau fferm ffug ac yn gor-ddefnyddio brandio Jac yr Undeb i roi'r argraff i gwsmeiriaid bod eu cynnyrch yn dod "o ffermydd ym Mhrydain". 

Mae'r ymgyrch yn honni fod mwyafrif o'r bwyd yn dod o dramor, ac yn cuddio dirywiad ffermydd teuluol y wlad. 

Fe wnaeth arolwg barn ym mis Gorffennaf awgrymu fod 61% o ffermwyr yn bryderus y bydd yn rhaid iddyn nhw adael eu ffermydd o fewn y 18 mis nesaf. 

Mae'r arolwg barn hefyd yn awgrymu fod 67% o ffermwyr yn teimlo o dan bwysau gan arferion prynu archfarchnadoedd, gyda 68% yn ofni na fyddan nhw ar restr archfarchnadoedd os ydynt yn cwyno am eu harferion prynu. 

'Diflannu'

Mae'r llythyr agored i archfarchnadoedd wedi cael ei arwyddo gan dros 100 ffigwr amlwg o'r diwydiant ffermio a bwyd, gan gynnwys yr AS Plaid Cymru Ceredigion Ben Lake, y cogydd Rick Stein a sefydliadau yn y diwydiant hefyd. 

Dywedodd y ffermwr a'r cyflwynydd teledu Jimmy Doherty, sydd hefyd wedi arwyddo'r llythyr: "Rydym ni'n gweld cenedlaethau o deuluoedd ffermio yn diflannu, yn cael eu disodli gan gorfforaethau di-wyneb sy'n blaenoriaethu elw yn hytrach na'r bobl neu'r blaned. 

"Mae'n amser i ni gymryd safiad a chefnogi ffermio Prydeinig go iawn cyn ei bod hi'n rhy hwyr."

Dywedodd arweinydd yr ymgyrch Guy Singh-Watson: "Mae dyfodol ffermio ym Mhrydain yn y fantol. 

"Mae'r cyhoedd yn teimlo ei bod yn bwysig eu bod yn gwybod o lle mae eu bwyd yn dod - mae'r archfarchnadoedd yn gwybod hyn ac yn defnyddio'r ymddiriedaeth hynny i wneud iddyn nhw feddwl eu bod yn prynu o'r ffermydd bychain, traddodiadol a Phrydeinig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.