Newyddion S4C

‘Hen bryd’ i holl gyfyngiadau Covid-19 ddod i ben yng Nghymru

Wales Online 12/07/2021
Pellhau cymdeithasol

Mae arbenigwr ar glefydau heintus wedi dweud ei bod hi’n amser i ddod a holl gyfyngiadau Covid-19 i ben yng Nghymru.

Yn ôl yr Athro John Watkins o Brifysgol Caerdydd, mae’r cysylltiad rhwng achosion a marwolaethau wedi ei thorri.

Ychwanegodd yr Athro Watkins, sy’n cynghori llywodraethau Cymru a San Steffan, fod llwyddiant y cynllun brechu a lefelau imiwnedd cyffredinol yn golygu ei bod hi nawr yn saff i waredu’r rheolau.

Mae’r gyfradd achosion Covid-19 ar gyfartaledd yng Nghymru yn 127 i bob 100,000, gyda dros hanner o awdurdodau lleol yn cofrestru dros 100 o achosion positif i bob 100,000 person.

Serch hynny, mae nifer y cleifion sy’n derbyn triniaeth mewn ysbytai yn parhau yn is nag ar gyfnodau tebyg yn ystod y dôn gyntaf a’r ail.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.