CPD Dinas Caerdydd yn diswyddo eu rheolwr Erol Bulut
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi diswyddo eu rheolwr Erol Bulut gyda’r clwb ar waelod tabl y Bencampwriaeth.
Daeth cadarnhad fod Bulut, 49 oed, wedi colli ei swydd ddydd Sul, diwrnod ar ôl i’r Adar Gleision golli 2-0 gartref yn erbyn Leeds United.
Cafodd Bulut, cyn-reolwr Fenerbahce, ei benodi fel rheolwr ym mis Mehefin 2023, gan arwain y clwb i’r 12fed safle.
Inline Tweet: https://twitter.com/CardiffCityFC/status/1837821657983209498
Ond roedd canlyniadau’r tîm ar ddechrau’r tymor newydd wedi bod yn siomedig, gyda phum colled allan o’u chwe gêm gyntaf yn y gynghrair, a llwyddo i sgorio un gôl yn unig.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd y clwb: "Gall Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd gadarnhau bod Rheolwr y Tîm Cyntaf Erol Bulut wedi cael ei ryddhau o'i ddyletswyddau a bydd yn gadael y clwb ar unwaith.
"Hoffai Bwrdd y Cyfarwyddwyr ddiolch i Erol am ei holl waith caled a dymuno'n dda iddo i'r dyfodol."
Hefyd yn gadael y clwb fydd hyfforddwr y tîm cyntaf, Nikolaos Karydas, tra y bydd cadarnhad pellach ynglŷn â dyfodol gweddill y staff hyfforddi yn dod maes o law, yn ôl y clwb.
Omer Riza fydd yn cymryd awenau'r tîm cyntaf dros dro, wrth i'r clwb chwilio am reolwr newydd.