Newyddion S4C

Achub person oedd wedi mynd i edrych ar leuad llawn ar Ynys Llanddwyn

20/09/2024
Achub person oddi ar Ynys Llanddwyn

Roedd dau fad wedi eu galw i achub person oddi ar Ynys Llanddwyn ar arfordir Môn oedd wedi mynd i'r ardal er mwyn edrych ar y lleuad llawn yr wythnos hon.

Fe gafodd criwiau badau achub Rhosneigr a Chaergybi eu galw i'r lleoliad ychydig cyn 21.00 nos Fercher yn dilyn adroddiad bod person yn sownd ar yr ynys.

Roedd y person wedi cael eu torri i ffwrdd o'r tir mawr gan lanw uchel wrth edrych ar y supermoon.

Math o leuad lawn yw'r supermoon sy'n digwydd pan fydd y lleuad ar ei bwynt agosaf at y ddaear, gan ymddangos yn fwy disglair nag arfer.

Gydag ond tri neu bedwar supermoon mewn blwyddyn, roedd nifer o bobl ar draws Cymru wedi heidio i lefydd arbennig i'w gweld.

Dywedodd llefarydd ar ran Bad Achub Rhosneigr bod rhai aelodau o'r tîm wedi gorfod gadael eu cychod i achub y person.

"Fe wnaethon ni benderfynu y byddai dau aelod o'r tîm yn gwisgo PPE arbennig er mwyn cerdded trwy'r dŵr i gyrraedd ein hanafedig," meddai.

"Gan eu bod nhw'n iawn a ddim angen unrhyw gymorth meddygol, fe wnaethon ni eu rhoi mewn siwt a siaced achub a'u hebrwng yn ôl ar draws y dŵr."

Ychwanegodd fod y person wedi cael cyngor am sut i fod yn ddiogel ger yr arfordir, gan sicrhau eu bod nhw'n ymchwilio'r tywydd ac amseroedd llanw.

Dylai unrhyw un sy'n mynd i drafferth yn y dŵr ffonio 999 a gofyn am wylwyr y glannau.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.