Ychwanegu 10 o eiriau Cymraeg at eiriadur Prifysgol Rhydychen
Mae 10 yn rhagor o eiriau Cymraeg wedi eu hychwanegu at eiriadur Prifysgol Rhydychen, yr Oxford English Dictionary.
Mae’r geiriadur eisoes yn cynnwys llond llaw o eiriau Cymraeg, gan gynnwys “cwtsh”.
Mae geiriau sydd wedi eu defnyddio ar draws y DU ac am “gyfnod amser rhesymol” yn cael eu cynnwys yn y geiriadur.
Dywedodd golygyddion y geiriadur eu bod nhw’n eiriau yr oedd yr iaith Saesneg wedi eu “benthyca” o’r Gymraeg.
Y geiriau a’r ymadroddion sydd wedi eu cynnwys yw:
- Calennig
- Iechyd da
- Ych a fi
- Twp
- Senedd
- Cawl
- Sglods
- Mam-gu/Tad-cu
- Taid
Roedd ‘Nain’ eisoes wedi ei ychwanegu yn flaenorol.
Mae’r iaith Saesneg wedi benthyca nifer o eiriau o’r Gymraeg dros y blynyddoedd, gan Seisnigeiddio rhai ohonyn nhw.
Mae rhai o’r geiriau sy’n deillio o’r Gymraeg yn cynnwys Corgi, Flannel (o gwlanen), a Bard (o bardd).
Mae rhai yn dadlau hefyd fod y gair ‘penguin’ yn deillo o ‘pen gwyn’.