Rhybudd melyn am dywydd stormus i Gymru ddydd Sadwrn
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am dywydd stormus i Gymru gyfan ddydd Sadwrn.
Daw hyn wedi rhybudd melyn arall am fellt, gwynt a chenllysg i rannau o Gymru ddydd Gwener, gan ddod â chyfnod o dywydd braf i ben.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 01:00 tan 23:59 ddydd Sadwrn.
Mae yna siawns y gallai 20-40mm o law syrthio mewn awr mewn rhai mannau, gyda rhai ardaloedd yn profi 50-70mm o law dros gyfnod o ychydig o oriau.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio fod siawns fach y gallai'r tywydd achosi toriadau trydan yn ogystal ag oedi i wasanaethau trên a bws.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd mai dwyrain Cymru fydd yn profi'r tywydd mwyaf garw, ynghyd â de Lloegr a rhannau o'r canolbarth.