Newyddion S4C

Cyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd ar ôl toriadau i gyfnodolion eraill

Folding Rock: New Writing from Wales and Beyond

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi cylchgrawn llenyddol newydd ar ôl torri grantiau rhai cyfnodolion eraill.

Bydd £80,000 o arian blynyddol yn mynd at Folding Rock: New Writing from Wales and Beyond a fydd medden nhw yn “dathlu llenyddiaeth Gymreig yn Saesneg”.

Daw wedi i’r Cyngor Llyfrau gyhoeddi ym mis Rhagfyr y llynedd na fydd New Welsh Review, Planet a Wales Arts Review yn derbyn nawdd eto eleni.

Mae’r cyngor llyfrau hefyd yn ariannu The Paper / Y Papur, Nation.CymruPoetry Wales a Welsh Agenda yn Saesneg.

Bydd y cylchgrawn newydd yn cael ei sefydlu gan yr awdur, golygydd a’r cynhyrchydd creadigol, Kathryn Tann, a’r golygydd a’r dyluniwr, Robert Harries.

Cafodd yr arian ei ddyfarnu am gyfnod o bedair blynedd, hyd at Fawrth 2028, yn dilyn hysbysebu tendr agored ar gyfer cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd ym mis Mawrth 2024. 

Bydd tri rhifyn y flwyddyn, gyda chynnwys digidol ar gael ochr yn ochr â’r cylchgrawn print.

‘Gweledigaeth’

Fe gwblhawyd y broses dros yr haf, a bydd Folding Rock yn cyhoeddi ei rifyn cyntaf ym mis Mawrth 2025, meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.

“Hoffwn gynnig ein llongyfarchiadau gwresog i Kathryn a Rob o Folding Rock am eu cais llwyddiannus i sicrhau’r cyllid hwn,” meddai.

“Roeddent wedi cyflwyno gweledigaeth i’r is-bwyllgor cyhoeddi am gylchgrawn a fydd yn amlygu ac yn dathlu’r goreuon o blith awduron Cymreig ac o Gymru, boed yn awduron newydd neu’n rhai cydnabyddedig – a chreu llwybr grymus, clir i ddoniau newydd allu cyhoeddi eu gwaith.

“Mae’r weledigaeth hon yn greiddiol i’n gwaith ni yn y Cyngor Llyfrau – i greu cyfleoedd i ddarganfod awduron newydd ac, yn y pen draw, i gryfhau’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wrth i’r genhedlaeth nesaf o awduron fireinio’u crefft.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda’r fenter gyffrous newydd yma, ac at weld rhifyn cyntaf Folding Rock yn cyrraedd yn gynnar y flwyddyn nesa.”

‘Diolchgar’

Dywedodd Kathryn Tann o Folding Rock ei fod yn “ganlyniad blynyddoedd lawer o freuddwydio”.

“Rydym mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth ac anogaeth a gawsom hyd yn hyn, ac ni allwn aros i weld i ble’r awn ni dros y blynyddoedd nesaf,” meddai.

Daw’r cyllid hwn o Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol, sydd yn ariannu’r masnachfreintiau pedair blynedd ar gyfer cyfnodolion diwylliannol Saesneg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.