Chwyddiant yn aros ar 2.2%
18/09/2024
Mae'r gyfradd chwyddiant wedi aros ar 2.2% ym mis Awst yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae hyn 0.2% yn uwch na targed Banc Lloegr o 2%.
Wrth i'r ffigyrau diweddaraf cael eu cyhoeddi fore Mercher dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Darren Jones fod y llywodraeth yn "benderfynol o drwsio sylfeini ein heconomi".
Mae chwyddiant yn mesur pa mor gyflym y mae prisiau’n codi.
Dywedodd Y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod prisiau tanwydd a bwytai wedi disgyn tra bod prisiau tocynnau awyren wedi cynyddu.