Affrica yn dioddef ei wythnos waethaf o’r pandemig

Mae Affrica wedi dioddef ei wythnos waethaf erioed o’r pandemig, gyda De Affrica wedi cael ei daro’n arbennig o ddrwg.
Allan o’r 5.8 miliwn o achosion sydd wedi eu cofnodi yn y 54 o wledydd yn Affrica, mae 35% ohonyn nhw yn Ne Affrica, er nad yw’r wlad ond yn cyfrif am 4% o boblogaeth y cyfandir.
Mae’n rhan o dueddiad ehangach yn y cyfandir, gyda 16 o wledydd gan gynnwys Zimbabwe, Congo, Rwanda, Senegal a Zambia yn ymladd yn erbyn y don newydd o’r haint, yn ôl Golwg360.
Darllenwch y stori'n llawn yma.