Newyddion S4C

Posibilrwydd bod Syr Keir Starmer wedi torri rheolau ynghylch rhoddion i'w wraig

15/09/2024
Keir a Victoria Starmer

Mae’n bosib bod Syr Keir Starmer wedi torri rheolau seneddol wrth fethu â datgan dillad a brynwyd i’w wraig gan roddwr Llafur, yr Arglwydd Waheed Alli.

Mae’r Sunday Times yn adrodd fod y rhoddion hefyd yn cynnwys talu am gost siopwr personol i Victoria Starmer, cyn ac ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Yn ôl adroddiadau fe wnaeth y prif weinidog gysylltu ag awdurdodau seneddol ddydd Mawrth i wneud datganiad hwyr ar ôl cael cyngor newydd ar ba eitemau yr oedd angen eu datgelu.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 fod Syr Keir yn credu ei fod wedi cydymffurfio â’r rheolau, ond ei fod wedi datgan eitemau pellach ers hynny.

Mae'n ofynnol i ASau gofrestru rhoddion o fewn 28 diwrnod o'u derbyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Fe wnaethon ni geisio cyngor gan yr awdurdodau ar ôl dod i’r swydd.

“Roeddem yn credu ein bod wedi cydymffurfio, fodd bynnag, yn dilyn holi pellach y mis hwn, rydym wedi datgan eitemau pellach.”

Mae'r Arglwydd Alli wedi prynu dillad a sbectol i Syr Keir o'r blaen, sydd wedi'u rhestru ar ei gofnod ar y gofrestr o fuddiannau ASau.

Yn fwyaf diweddar, roedd y prif weinidog wedi datgan bod yr Arglwydd Alli wedi darparu llety iddo am sawl wythnos, sydd wedi ei gofnodi yn werth mwy na £ 20,000.

Ym mis Awst, daeth i'r amlwg bod yr Arglwydd Alli wedi cael tocyn diogelwch dros dro i Downing Street er nad oedd ganddo rôl ffurfiol yn y llywodraeth.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.