Cyhuddo dyn 18 oed o lofruddio tri o bobl
Mae dyn 18 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i dri o bobol gael eu canfod yn farw mewn tŵr yn Luton, sir Bedford, ddydd Gwener.
Cafodd Nicholas Prosper, o Leabank, ei arestio fore Gwener ar ôl i gyrff dynes a dau yn eu harddegau gael eu darganfod mewn fflat.
Dywedodd Heddlu Swydd Bedford y credir mai’r dioddefwyr oedd Juliana Prosper, 48, Kyle Prosper, 16, a Giselle Prosper, 13 - i gyd hefyd o Leabank - ond nid yw adnabyddiaeth ffurfiol wedi digwydd eto.
Mae disgwylNicholas Prosper, sydd hefyd wedi’i gyhuddo o nifer o droseddau drylliau, ymddangos yn Llys Ynadon Luton ddydd Llun.
Cafodd swyddogion eu galw i floc o fflatiau Leabank, yn ardal Marsh Farm yn Luton am tua 05:30 ddydd Gwener a dod o hyd i dri o bobl ag anafiadau angheuol.
Dywedodd Heddlu Swydd Bedford fod y dyn 18 oed wedi ei arestio yn fuan ar ôl i swyddogion gael eu galw i’r eiddo.
Ychwanegodd y llu eu bod nhw wedi dod o hyd i ddryll yn ystod archwiliad o'r ardal gyfagos.