Syr Keir Starmer yn yr Unol Daleithiau i drafod y gwrthdaro yn Wcráin a Gaza
Mae’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi cyrraedd America i gynnal trafodaethau gyda’r Arlywydd Joe Biden er mwyn ceisio datrys y gwrthdaro yn Wcráin a Gaza.
Mae disgwyl i Syr Keir Starmer gwrdd â Mr Biden yn y Tŷ Gwyn ddydd Gwener yn dilyn cais gan Wcráin i godi cyfyngiadau ar ddefnyddio arfau gan wledydd y gorllewin yn erbyn targedau yn Rwsia.
Beth mae'r Prif Weinidog wedi dweud?
Mae Syr Keir wedi dweud bod gan Rwsia'r pŵer i ddod a'r rhyfel i ben "yn syth."
Dywedodd fod Vladimir Putin a Rwsia wedi dechrau'r rhyfel trwy oresgyn Wcráin yn anghyfreithlon.
Daw'r sylwadau ar ôl i Putin awgrymu y byddai taflegrau o wledydd y gorllewin yn dwysáu'r rhyfel ac yn "golygu dim byd mwy na chyfraniad uniongyrchol gwledydd NATO, America a gwledydd Ewrop yn y rhyfel yn Wcráin."
Bydd Syr Keir Starmer a'r Arlywydd Joe Biden yn trafod rhoi caniatâd i Wcráin danio'r taflegrau at dargedau ar dir Rwsia.
Pam felly fod Syr Keir yn teithio i'r UDA ar hyn o bryd?
Daw ymweliad y Prif Weinidog â Washington DC ddeufis yn unig cyn y bydd Americanwyr yn mynd i’r blychau pleidleisio yn yr etholiad arlywyddol, ac mae’n dilyn taith yr Ysgrifennydd Tramor, David Lammy i Kyiv ochr yn ochr ag ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken.
Ni chafodd y naill wleidydd eu dylanwadu i roi caniatâd i Wcráin ddefnyddio’r taflegrau pellter hir gan y gorllewin i ymosod ar dargedau yn Rwsia, sy’n gais uniongyrchol gan yr Arlywydd Volodymyr Zelensky.
Mae pryder am waethygu'r sefyllfa sydd eisoes yn fregus, ac yn un o'r rhesymau pam nad oes caniatâd wedi'i roi i Kyiv eto.
Oes pryderon ehangach gan yr arweinwyr?
Mae Iran wedi cael ei tharo gan sancsiynau gan y DU ac America ar ôl i’r ddwy wlad gyhuddo Tehran yn ffurfiol o gyflenwi taflegrau balistig i Rwsia.
Cyhoeddodd Mr Lammy a Mr Blinken gymorth ariannol pellach i Wcráin, gan gynnwys pecyn gwerth £600 miliwn gan y DU a $717 miliwn (£550 miliwn) gan yr Unol Daleithiau i ateb anghenion dyngarol ac ynni yn y wlad.
Mae pecyn y DU yn cynnwys ailgadarnhau addewid Rishi Sunak o £242 miliwn, yn ogystal â gwerth $484 miliwn (£371 miliwn) o warantau benthyciad ar gyfer benthyciadau Banc y Byd cyn diwedd y flwyddyn, tra bod pecyn yr UDA yn cynnwys $325 miliwn ( £250 miliwn) i gefnogi anghenion ynni Wcráin.
Ail daith Syr Keir i'r UDA fel Prif Weinidog
Hon fydd ail daith Syr Keir i America fel Prif Weinidog, ac fe fydd hefyd yn trafod y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, ac unrhyw gynnydd posibl y gellir ei wneud tuag at ryddhau gwystlon a chytundeb cadoediad rhwn Israel a Gaza.
Digwyddodd y trafodaethau cyntaf yn y Tŷ Gwyn Yn ystod uwchgynhadledd Nato ychydig ddyddiau ar ôl i Lafur ennill yr etholiad.
Nid oes disgwyl iddo gyfarfod gyda Kamala Harris - ymgeisydd y Democratiaid yn y ras arlywyddol, a'r un sydd wedi sefyll yn y bwlch ar ran ei phlaid ar ôl i Joe Biden gyhoeddi ei fod yn camu i lawr o'r ras yn erbyn Donald Trump am resymau iechyd.