‘Camgymeriad enfawr’: Pryder y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi tro pedol ar adeiladu Wylfa newydd
Mae arweinwyr undebau llafur wedi rhybuddio y byddai yn “gamgymeriad enfawr” cyhoeddi tro pedol ar adeiladu gorsaf niwclear Wylfa.
Mewn llythyr at y Canghellor Rachel Reeves, dywedodd ysgrifenyddion cyffredinol undebau GMB a Prospect bod gan niwclear rôl bwysig i’w chwarae wrth gyrraedd targed sero net y DU.
“Dyma’r union fath o anghysondeb sydd wedi llesteirio cynnydd ein diwydiant niwclear, ac yn wir ein diwydiant ynni yn ehangach, dros nifer o flynyddoedd,” meddai’r llythyr.
Mae'r Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband wedi dweud wrth swyddogion i adolygu cynlluniau niwclear y dyfodol, gan olygu fod cynlluniau ar gyfer Wylfa bellach yn ansicr.
Fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ym mis Mai mai safle'r Wylfa ar Ynys Môn yw eu dewis cyntaf ar gyfer gorsaf niwclear newydd.
Mae cwmni Niwclear Prydain Fawr (GBN), yr asiantaeth sydd yn gyfrifol am baratoi safleoedd niwclear, bellach yn cynnal adolygiad o’r cynllun ar ran Mr Miliband.
Ond dywedodd arweinwyr undebau fod ganddyn nhw “bryderon mawr” am yr adolygiad.
Galwodd Gary Smith (GMB) a Mike Clancy (Prospect) ar y Canghellor i sicrhau fod gan y diwydiant niwclear yr adnoddau oedd ei angen arno er mwyn ffynnu.
Roedden nhw hefyd yn poeni am effaith toriadau posib ar allu'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear i sicrhau bod safonau diogelwch yn uchel mewn gorsafoedd niwclear.
“Fel y dangosodd adroddiad ymchwiliad Tŵr Grenfell, mae peryglon wrth ostwng safonau diogelwch,” medden nhw.
'Ansicrwydd parhaus'
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth aelod seneddol Plaid Cymru dros Ynys Môn, Llinos Medi, alw ar y llywodraeth i roi'r gorau i'r "ansicrwydd gwleidyddol parhaus" ynghylch safle niwclear Wylfa.
"Mae safle Wylfa wedi bod yn gêm wleidyddol ers dros ddegawd. Yn ôl yn 2019 roeddem mor agos at y llinell derfyn, ond nid oedd gan y safle gefnogaeth wleidyddol gan y Llywodraeth ar y pryd.
"Mae’r gymuned wedi bod yn dyst i wawr ffug Wylfa Newydd, ac mae ansicrwydd ynghylch safle o dan y Llywodraeth Lafur hon."
Ychwanegodd: “Nid yw pobl Ynys Môn eisiau mwy o ystyriaeth; maent eisiau ymrwymiad ac amserlenni clir. Anogaf y Llywodraeth i roi ateb syml i Ynys Môn am ddyfodol safle’r Wylfa, a llinell amser glir."