Newyddion S4C

Caernarfon: Rhybudd am bobl ifanc yn 'taflu pethau' ar ôl taro babi mewn coets

11/09/2024

Caernarfon: Rhybudd am bobl ifanc yn 'taflu pethau' ar ôl taro babi mewn coets

Mae Heddlu’r Gogledd wedi rhybuddio pobl ifanc yng Nghaernarfon sy'n "taflu pethau" eu bod nhw'n ystyried erlyn ar ôl i fabi mewn coets gael ei daro gan un o'r taflegrau.

Dywedodd yr heddlu bod degau o bobl ifanc wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau “gwrthgymdeithasol” yn y dref yng Ngwynedd.

Dywedodd bod grŵp o fechgyn ifanc wedi bod yn “taflu pethau” yn y dref, gan ddifrodi cerbydau a tharo un babi mewn coets. 

Fe wnaeth y llu gyhoeddi fideo ar y cyfryngau cymdeithasol (uchod) oedd yn dangos un o'r digwyddiadau honedig ar yr A4085 wrth caer Rufeinig Segontium.

“Yn ffodus, ni wnaeth y babi gael ei anafu ond mi allai'r stori fod wedi bod yn wahanol iawn,” meddai’r swyddog Jordan Jones o Dîm Plismona Cymdogaethau Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd bod 14 o bobl ifanc rhwng 9-15 oed wedi’u hadnabod gan yr heddlu, ac y bydd swyddogion yn ymweld â'u cartrefi er mwyn “siarad â'u teuluoedd a rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau partneriaid.”

“Erlyn pobl ifanc yw'r dewis olaf ond os yw'r digwyddiadau yn parhau i waethygu, bydd yn rhaid gweithredu yn ffurfiol," meddai llefarydd ar ran y llu.

"Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i'n cefnogi ni drwy siarad â'u plant ynglŷn â ble maent yn mynd gyda'r nos a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fywydau pobl o'u cwmpas,."

Mae’r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu dystiolaeth camera sy'n ywneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaernarfon, ac ar yr A4085 wrth ymyl Segontium yn benodol, i gysylltu ar unwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.