Newyddion S4C

Eluned Morgan: Cyflwyno'r gyfraith 20mya wedi 'creu problemau'

09/09/2024

Eluned Morgan: Cyflwyno'r gyfraith 20mya wedi 'creu problemau'

Un o brif bolisiau Mark Drakeford yn cael ei lansio'r llynedd dan arweiniad y Cyn-weinidog Lee Waters.

Ymdrech i leihau'r nifer o farwolaethau ar ein ffyrdd oedd y polisi.

Roedd 'na ymateb chwyrn gyda deisebau a phrotestiadau.

Heddiw, mae'r Prif Weinidog newydd yn cydnabod bod y ffordd cafodd y gyfraith ei gyflwyno wedi achosi problemau.

"It created a problem, we've got to acknowledge that.

"We've got to have a reset. We've got to have that revision.

"Hundreds of people have written into their Local Council saying about changing this road back.

"We'll see where those councils come up with those exemptions.

"It's kind of in the hands of the public locally now to make the case to their Local Authorities.

"We've given the flexibility to the Local Authorities to make those decisions."

Sut gyrrhaeddon ni fan hyn?

Cafodd y gyfraith 20mya ei basio haf diwethaf.

Addewid o faniffesto Llafur Cymru, ond roedd o'n ddadleuol o'r dechrau.

Amser yma'r llynedd, cafodd arwyddion 20mya eu codi ar draws Cymru wrth i'r ddeddfwriaeth ddod i rym ar gost o £33 miliwn.

Dechrau eleni dechreuodd yr Heddlu roi dirwyon i yrwyr oedd yn torri'r rheolau ond roedd y pwyslais yn parhau ar addysgu gyrwyr.

Mis Ebrill dan Brif Weinidog newydd gyda bron i 500,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y Llywodraeth i gael gwared ar y ddeddf cafodd newidiadau eu cyhoeddi, cynghorau yn cael yr hawl i ddewis pa lonydd oedd yn aros yn 20mya.

Dydy hi ddim yn glir pryd fydd y newidiadau yna'n dod i rym.

Ond mi ydan ni'n gwybod bod y gyfraith yn cyflawni'r nod.

Mae'r nifer o anafiadau difrifol neu farwolaethau ar lonydd 20mya neu 30mya wedi gostwng 23% yn y tri mis ar ôl i'r polisi ddod i rym o gymharu â'r tri mis blaenorol.

Ond er gwaetha'r ffigyrau yma mae 'na rai sydd eisiau cael gwared â'r gyfraith.

"Fi'n siarad lan am y cymunedau sydd heb roi caniatâd am y newidiadau yma.

"Mae pob un yn cytuno yn sgil 20mya tu fas i ysgolion ac ysbytai.

"Be sy'n poeni'r cymunedau y 400,000 o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb yw'r pŵerau mae'r Llywodraeth wedi delio gyda a shwt maen nhw wedi mynd mas
a gwneud newidiadau i gymunedau heb ganiatâd y cymunedau."

Gallai'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn delio a'r newidiadau sydd ar y gweill fod yn foment fawr.

Gallai fod yn arwydd o ddyddiau gwell i ddod i'r Blaid Lafur mewn grym neu araf fydd y gwaith o roi'r cyfnod cythryblus yma tu cefn iddyn nhw.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.