Heddlu Llundain dan bwysau i adolygu eu prosesau yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard

Mae Heddlu Llundain dan bwysau i ymchwilio i sut y cafodd llofrudd Sarah Everard barhau yn ei waith er bod amheuon ers tro am ei ymddygiad.
Roedd Wayne Couzens, 48 oed, wedi’i amau o ddinoethi ei hun dair gwaith cyn iddo gipio’r ddynes 33 oed yn Clapham ar 3 Mawrth.
Mewn gwrandawiad yn yr Old Bailey ddydd Gwener, plediodd Couzens yn euog i gyhuddiad o lofruddio ar ôl cyfaddef eisoes iddo ei chipio a’i threisio.
Yn ôl Golwg360, mae nifer o grwpiau ymgyrchu’n galw am ymchwiliad cyhoeddus llawn i “fethiannau a chamymddwyn” yn yr heddlu.
Darllenwch y stori'n llawn yma.