Dyn wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth dyn arall drwy yrru'n beryglus yn Sir Benfro
Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth dyn arall drwy yrru'n beryglus yn Sir Benfro.
Bu farw Christopher Boyle mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A4139 rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenalun ddydd Llun.
Cafodd Mateusz Sikorski, 30 oed ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn Llys yr Ynadon Llanelli ddydd Iau.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa ac yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Hydref.
'Annwyl iawn'
Dywedodd teulu Christopher Boyle, 57 oed ei fod yn berson oedd yn cynnig cymorth i bawb.
"Roedd Chris yn fab, tad brawd ac ewythr annwyl iawn," medden nhw.
"Roedd yn cael ei adnabod fel 'Mucker' gan ei ffrindiau, ac roedd yn chwarae rhan amlwg yn y gymuned a byddai’n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un.”