Rhybudd melyn am law i dde a chanolbarth Cymru
Mae rhybudd melyn am law mewn grym yn nifer o siroedd de a chanolbarth Cymru dros y deuddydd nesaf.
Fe ddaeth y rhybudd i rym am 21:00 nos Fercher ac fe fydd yn parhau nes 23:59 ddydd Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyn arwain at lifogydd ac amseroedd teithio hirach.
Mae siawns fach hefyd y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd, medden nhw.
Fe allai rhai ardaloedd weld 20-40mm o law yn disgyn mewn cyfnod o awr neu ddwy, a hyd at 50-60mm yn bosib mewn rhai mannau.
Erbyn nos Iau fe all 80-100mm disgyn mewn rhai ardaloedd yn dilyn cyfnod hir o law.
"Rhowch y cyfle gorau i chi'ch hun osgoi oedi trwy wirio amodau'r ffyrdd os ydych chi'n gyrru, neu amserlenni bysiau a threnau, gan addasu eich cynlluniau teithio os oes angen," meddai llefrydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
"Byddwch yn barod i rybuddion tywydd newid yn gyflym, mae’r Swyddfa Dywydd yn argymell eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon y tywydd yn eich ardal pan rydym yn cyhoeddi rhybuddion."
Bydd y rhybudd mewn grym i'r siroedd isod:
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gaerfyrddin
- Torfaen