Newyddion S4C

Cyngor Ceredigion yn ymgynghori ar warchod arfordir Aberystwyth

03/09/2024

Cyngor Ceredigion yn ymgynghori ar warchod arfordir Aberystwyth

Tarodd Storom Dudley yn galed yn 2022.
 
Gadael ei hôl wnaeth Eunice hefyd.
 
Prin fod trigolion Aberystwyth wedi anghofio'r olygfa druenus yma ddegawd union yn ôl.
 
Ers dros chwe blynedd, mae Cyngor Ceredigion wedi bod yn ymgynghori ac yn cynnig cynlluniau posib i warchod arfordir y dref hon.
 
"Y bwriad yw, bydd hynny'n torri nerth y tonnau."
 
Cyfle i bobl heddiw a fory ddod yma i'r bandstand i ddysgu mwy.
 
"Y bwriad yw adeiladu argae o gerrig yn y môr dod a llawer mwy o raean a swnt mewn i'r traeth.
 
"Mae dau rock groyne bob pen i ddala'r traeth yn ei le."
 
Dw i 'di bod yn dyst i ddifrod mawr yn Aberystwyth yn y gorffennol.
 
O dderbyn fod newid hinsawdd am godi lefel y môr am arwain at ragor o stormydd, mae'n amlwg fod angen y cynllun er mwyn gwarchod busnesau lleol ac arbed bywydau.
 
Felly, ydy'r bobl leol yn hapus a'r cynlluniau?
 
Mae Brian yn byw hanner canllath o donnau'r môr.
 
"Does dim byd trawiadol am Draeth y De.
 
"Ychydig o waith fydd yno, wal o hanner metr o uchder o flaen y tai.
 
"Bydd hynny ddim yn amharu o gwbl."
 
"Rhaid i rywbeth gael ei wneud.
 
"Wedi dweud hwnna, dw i'n gredwr fod natur yn gryfach na dyn a bod rhaid i ni feddwl am ein allyriadau carbon.
 
"Rhaid rhoi ffydd yn y peirianyddion sydd yma ond natur sy'n mynd i oruchafio yn y diwedd."
 
"Y gwyntoedd yn cryfhau, y môr yn mynd yn fwy ddyfn a'r tonnau'n fwy.
 
"Gall y broblem fynd yn wahanol yn gyflym iawn."
 
Felly, mae angen ymateb nawr.
 
"Oes, oes."
 
Oes poeni y bydd e'n newid y ffordd byddwch yn gallu mynd at y traeth a'r ffordd mae pethau'n edrych?
 
"Oes, ac yn amlwg yn weledol, bydd e'n wahanol.
 
"Ni'n trio osgoi gwaith ar y prom achos mae pobl yn mwynhau'r prom.
 
"Ond eto, rhaid amddiffyn y prom yn erbyn stormydd yn y dyfodol."
 
Mae 200 eiddo mewn perygl o lifogydd os bydd storm un mewn 200 mlynedd y taro.
 
Er bod poeni am effeithiau gweledol y tomenni anferthol o gerrig gall gael ei gosod yma rhaid gweithredu gyda sêl bendith pobl Aber yn ôl y Cyngor Tref.
 
"Bydd pawb efo eu barn eu hunain ond mae'n bwysig i ni roi o ymlaen."
 
Un elfen hollbwysig yw'r gost sy'n ddegau o filiynau o bunnoedd.
 
"Mae ffigyrau'n cael eu trafod rhwng 15 ac 20 oddeutu.
 
"Mae hynny o bosibl yn mynd i newid efo chwyddiant dros y blynyddoedd.
 
"Ni ddim yn gwybod beth bydd y gwir gost ond bydd o'n sicr yn rhan o'r trafodaethau."
 
"The seafront at Aberystwyth has had a tremendous buffeting and suffered thousands of pounds worth of damage."
 
Na, dyw hon ddim yn broblem newydd.
 
Gyda disgwyl dechrau ar y gwaith yn 2026 ar ôl y prosesau cynllunio fydd 'na beth amser eto cyn i ni gyrraedd penllanw'r cynllun hwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.