Newyddion S4C

Cwmni adeiladu WRW o Lanelli yn nwylo'r gweinyddwyr

09/07/2021
wrw

Mae cwmni adeiladu WRW wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr, yn dilyn cyfnod o ansicrwydd ariannol.

Mae pencadlys y cwmni yn Llanelli, ac mae ganddo swyddfeydd yng Nghaerdydd ag Abertawe.

Yn dilyn y newyddion, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin ei fod wedi cymryd "camau ar unwaith" i ddiogelu dau safle datblygu mawr sydd ar waith ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin - Prosiect Denu Pentywyn a chynllun tai fforddiadwy yn Dylan, Llanelli.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Mae hyn yn newyddion anffodus a fydd yn sicr o effeithio ar weithwyr ac is-gontractwyr lleol. Mae WRW Construction wedi gweithio gyda ni i ddatblygu sawl cynllun mawr dros nifer o flynyddoedd, gan gynnwys ysgolion a chartrefi, ac rydym yn flin o glywed am ei gwymp.

“Ein ffocws ar unwaith oedd mynd ati i ddiogelu dau safle datblygu mawr sydd ar waith ar hyn o bryd - Prosiect Denu Pentywyn a chynllun tai fforddiadwy yn Dylan, Llanelli.  Ar hyn o bryd rydym yn casglu gwybodaeth ac yn darparu cymorth ymarferol i gynorthwyo is-gontractwyr sy'n ymwneud â'r gwaith ar y ddau safle hyn.

“Fel gyda phob prosiect mawr, mae trefniadau wrth gefn ar waith. Felly, rydym yn hyderus y gallwn ailafael yn y gwaith i barhau i gyflawni'r ddau brosiect mawr hyn yn y dyfodol agos, er y bydd hyn yn anochel yn arwain at rywfaint o oedi a chostau ychwanegol, y bydd angen eu hasesu. Byddwn yn rhoi diweddariadau pellach i chi maes o law.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dole: “Er ein bod yn deall nad yw amgylchiadau cwymp WRW Construction yn gysylltiedig â'r materion hyn, byddwn, serch hynny, yn gweithredu'r mesurau hyn i liniaru effaith y sefyllfa hon.

“Rydym eisoes wedi cael swyddogion cymorth busnes o'n tîm datblygu economaidd i roi cyngor a gwybodaeth i'r rheiny y mae hyn yn effeithio arnynt. Byddwn hefyd yn cyflymu ystod o gyfleoedd cyflogaeth o fewn yr awdurdod a allai ddarparu cyflogaeth amgen addas i bobl sydd â sgiliau trosglwyddadwy, a byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i nodi a hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a swyddi perthnasol eraill.

“Mae hon yn sefyllfa drist i bawb sy'n gysylltiedig â hi, ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pawb y mae hyn yn effeithio arnynt.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.