Wayne Couzens yn pledio yn euog i lofruddio Sarah Everard

The Independent

Mae heddwas wedi pledio yn euog i lofruddio Sarah Everard ar ôl ei herwgipio yn Llundain.

Gwnaeth Wayne Couzens, sy'n gwnstabl Heddlu'r Met, bledio yn euog i'r cyhuddiad mewn gwrandawiad yn yr Old Bailey ddydd Gwener, meddai The Independent.

Fe ddiflannodd Ms Everard, 33 oed, wrth gerdded adref o dŷ ei ffrind yn Clapham ym mis Mawrth. 

Cafwyd hyd i'w chorff mewn coedlan yn Ashford, Caint ar 10 Mawrth.

Fe blediodd Couzens yn euog o herwgipio a threisio Ms Everard mewn gwrandawiad yn gynharach fis diwethaf.

Darllenwch y stori'n llawn yma.