Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Hwlffordd i herio'r Drenewydd

Sgorio 30/08/2024
Hwlffordd v Penybont

Mae pedwar clwb yn gyfartal ar bwyntiau ar frig Uwch Gynghrair JD Cymru, a bydd yr holl gyffro yn cychwyn yng ngorllewin Cymru nos Wener.

Hwlffordd (4ydd) v Y Drenewydd (5ed) | 19:45 (Yn fyw ar-lein)

Gyda dwy fuddugoliaeth a dwy gêm gyfartal mae wedi bod yn ddechrau cadarn i’r tymor i Hwlffordd, sy’n gyfartal ar bwyntiau gyda thri chlwb arall ar frig y gynghrair.

Mae dwy gêm olaf Hwlffordd wedi bod yn rhai heb goliau (yn erbyn Pen-y-bont a Met Caerdydd), a dim ond un gôl y mae tîm Tony Pennock wedi ildio yn eu pedair gêm gynghrair hyd yn hyn.

Yn dilyn colled siomedig o 4-0 gartref i Gaernarfon nos Wener ddiwethaf, ymatebodd Y Drenewydd yn dda gyda buddugoliaeth 2-1 oddi cartref yn erbyn Y Barri ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Mae Hwlffordd wedi ennill un o’u chwe gêm ddiwethaf gyda’r Drenewydd yn unig (colli 3, dwy gyfartal), ond roedd honno’n fuddugoliaeth hollbwysig o giciau o’r smotyn yn rownd derfynol gemau ail gyfle 2022/23, gyda’r Adar Gleision yn sicrhau eu lle yn Ewrop.

Record cynghrair diweddar:
Sir Hwlffordd: ✅✅➖͏➖
Y Drenewydd: ͏✅➖❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau i’w gweld ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o holl ddigwyddiadau’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.