Gwres o ddŵr hen byllau glo i gynhesu cartrefi'r dyfodol?
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi cyhoeddi map newydd o ardaloedd tanddaearol allai ddarparu gwres yn y dyfodol, a hynny gan ddefnyddio gwres o ddŵr hen byllau glo.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu'r Awdurdod Glo i ymchwilio i'r cyfleoedd o gael gwres o ddŵr o byllau glo nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio, gan dderbyn "map cyfleoedd gwres dŵr pyllau glo" fel canlyniad i'r gwaith ymchwil hwnnw.
Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd Mr Skates: "Gyda gwres yn cyfrif am 50% o'r ynni a ddefnyddir yng Nghymru, gallai gwres o ddŵr pyllau glo wella cynaliadwyedd y lleoedd lle'r ydym yn byw ac yn gweithio. Gallai gwres o ddŵr pyllau glo hefyd chwarae rhan yn ein hymdrechion angenrheidiol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chefnogi datgarboneiddio.
"Roedd gwaith yr Awdurdod Glo yn cynnwys asesu'r holl byllau glo y gwyddys amdanynt yng Nghymru a allai bellach gynnwys dŵr sy'n cael ei gynhesu gan brosesau naturiol. Wedyn gwnaethant gynllunio map yn cynnwys holl ardaloedd yr awdurdodau lleol, gan gategoreiddio pyllau glo yn gyfleoedd "Da", "Posibl" a "Heriol" ar gyfer datblygiadau gwres dŵr pyllau glo."
'Potensial arbennig'
Ychwanegodd Mr Skates: "Yn ogystal, gwnaethant gynhyrchu map yn dangos lleoliadau lle mae dŵr pyllau glo eisoes yn dod i'r wyneb drwy ollyngiadau ysgogir gan ddisgyrchiant a chynlluniau trin dŵr pyllau glo. Mae lleoliadau o'r fath yn cynnig potensial arbennig o gost-effeithiol ar gyfer cynlluniau gwresogi.
"Mae adroddiadau technegol hefyd wedi cael eu paratoi ar gyfer 12 awdurdod lleol, sy'n tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gwres o byllau glo. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â MapDataCymru."
Mae'r adroddiadau'n darparu gwybodaeth a data ar gyfer datblygwyr sydd â diddordeb mewn archwilio'r cyfleoedd ar gyfer datgarboneiddio a'r cyfleoedd economaidd allai godi o ddefnyddio gwres o byllau glo yn y dyfodol.
Llun: Llywodraeth Cymru