Teyrngedau i bêl-droediwr o Ynys Môn yr oedd 'pawb yn ei garu'
Mae'r gymuned bêl-droed ar Ynys Môn wedi rhoi teyrngedau i chwaraewr yr oedd "pawb yn ei garu".
Bu farw Mike Davies o Ynys Môn yn 44 oed.
Roedd wedi chwarae yng nghanol cae i Glwb Pêl-droed Bae Trearddur, Tref Caergybi a Bae Cemaes, ac roedd hefyd yn chwaraewr pêl-fasged fedrus.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd Clwb Pêl-droed Bae Trearddur: "Mae'r clwb yn drist o gyhoeddi bod un o unigolion gorau'r clwb wedi marw.
"Mae Mike Davies wedi bod gyda'r clwb ers yn blentyn, wedi chwarae i fyny drwy'r oedrannau ac yn y pen draw i'r tîm hŷn.
"Ef oedd capten ein clwb am flynyddoedd lawer a chododd nifer o dlysau.
"Mae’n gadael ei wraig brydferth Michelle a dau o blant gwych a fydd bob amser yn cael cefnogaeth y clwb.
"Mae ein calonnau i gyd yn mynd allan i Michelle, y bechgyn a gweddill y teulu ar yr amser anhygoel o drist hwn."
Dywedodd Clwb Pêl-droed Bae Cemaes: "Mae pawb ym Mae Cemaes yn hynod drist o glywed am farwolaeth Mike Davies.
"Yn berson hoffus iawn ym myd pêl-droed Ynys Môn a thu hwnt, roedd Mikey wedi cynrychioli ein clwb yn ystod yr ymgyrch 21/22, gan ddod â digon o brofiad a hiwmor gydag ef.
"Roedd yn andros o gymeriad a oedd yn gallu gwneud i unrhyw un chwerthin ac roedd pawb yn y clwb yn ei garu.
"Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Mikey, gorffwys mewn hedd ffrind."
Dywedodd clwb pêl fasged Celtiaid Ynys Môn: “Mae'r Celtiaid yn drist iawn i gyhoeddi marwolaeth un o'n sylfaenwyr ac un o’n chwaraewyr mwyaf ysbrydoledig, Mike Davies.
“Chwaraeodd Mikey i'r Celtiaid yn y 90au a'r 2000au ar lefel cynghrair lleol a chenedlaethol a pharhaodd i gefnogi'r clwb trwy gydol ei oes.
“Roedd yn aelod allweddol o dîm Ysgol Uwchradd Caergybi a enillodd Bencampwriaeth Pêl-fasged Ysgolion Cymru deirgwaith rhwng 1993-1996, a chafodd ei gap ar gyfer Tîm Pêl-fasged Cenedlaethol Cymru yn y grwpiau oedran dan 14 a dan 16.
“Yn arweinydd ar y cwrt ac oddi arno, roedd chwarae brwdfrydig Mikey, ei bersonoliaeth heintus a’i synnwyr digrifwch chwedlonol yn golygu ei fod yn cael ei garu gan bawb y cyfarfu â nhw.
“Mae’r clwb yn anfon ei gydymdeimlad dwysaf at ei wraig Michelle Cheetham Davies a’i feibion Rio a Cai – roedd Mikey yn un ohonom ni ac fe fydd bob amser yn rhan o deulu’r Celtiaid.”
Prif Lun: Celtiaid Ynys Môn