The Gruffalo's Child i ymddangos ar ddarnau arian 50c
Bydd prif gymeriad The Gruffalo’s Child yn ymddangos ar geiniog 50c i nodi 20 mlynedd ers i’r llyfr plant gael ei gyhoeddi.
Fe fydd y bwystfil ifanc yn ymddangos wrth ochr y llygoden, Mouse, gyda’r pâr yn sefyll mewn coedwig yn y gaeaf.
Cafodd delweddau Alex Scheffler, sef darlunydd y llyfr, eu hargraffu ar ddarnau o arian ym mhencadlys y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf.
Ni fydd y darnau arian ar gael i'w gwario, ond mi fyddan nhw ar gael i'w prynu ar wefan y Bathdy Brenhinol.
Fe gafodd The Gruffalo’s Child, gan Julia Donaldson ac Alex Scheffler, ei gyhoeddi yn 2004 – a hynny wedi i’r gyntaf yn y gyfres, The Gruffalo, gael ei chyhoeddi am y tro cyntaf yn 1999.
Cafodd ffilm The Gruffalo's Child ei darlledu gan y BBC am y tro cyntaf ar ddiwrnod Nadolig 2011.
Dywedodd Alex Scheffler bod y fath sylw yn "anrhydedd."