Newyddion S4C

Martyn Margetson yn ail ymuno â thim hyfforddi Cymru

27/08/2024
Martyn Margetson

Bydd Martyn Margetson yn dychwelyd i’w rôl flaenorol fel Hyfforddwr Gôl-geidwaid Tîm Pêl-droed Cymru wedi iddo gael ei benodi gan reolwr Cymru, Craig Bellamy. 

Fe fydd Margetson yn dychwelyd i’r rôl am y tro cyntaf ers 2016  ar ôl iddo dreulio pum mlynedd yn Hyfforddwr Gôl-geidwaid Cymru o dan arweiniad Gary Speed a Chris Coleman. 

Roedd Margetson hefyd yn rhan o ymgyrch UEFA Euro 2016 Tîm Pêl-droed Cymru cyn iddo ymuno â thîm Lloegr.

Fel cyn chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, mae Martyn Margetson hefyd wedi gweithio gyda chlybiau pêl-droed Caerdydd, West Ham, Crystal Palace ac Everton – a hynny cyn ei swydd bresennol fel Pennaeth Gôl-geidwaid Clwb Pêl-droed Abertawe.

Dywedodd Margetson: “Roedd bod yn hyfforddwr gôl-geidwaid Cymru ac yn rhan o’r garfan a gyrhaeddodd rownd gynderfynol UEFA EURO 2016 yn un o brofiadau gorau fy ngyrfa. 

“Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda’r grŵp presennol o gôl-geidwaid a’r garfan ehangach, gan fy mod wedi gweithio gyda sawl un o’r chwaraewyr o’r blaen. 

“Rwy’n gobeithio y gall fy mhrofiad helpu i ddod â llwyddiant i’r tîm.” 

Daw’r cyhoeddiad ddydd Mawrth wedi i'r gymdeithas bêl-droed ddatgelu yr wythnos diwethaf y bydd Andrew Crofts, James Rowberry, Piet Cremers a Ryland Morgans hefyd yn ymuno a thîm rheoli Craig Bellamy. 

Dywedodd Craig Bellamy: “Pan edrychais ar y grŵp newydd o staff hyfforddi, mae llawer o brofiad o bêl-droed mewn clybiau ar lefel uchel ond nid o bêl-droed rhyngwladol, rhywbeth sydd gan Martyn. 

“Bydd y profiad a’r wybodaeth honno’n fanteisiol iawn ac roedd ei gael yn rhan o’r tîm yn benderfyniad hawdd i’w wneud.” 

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.