Cyngor yn gwrthod dilyn gorchymyn i hedfan Jac yr Undeb
Mae un o gynghorau'r gogledd wedi dweud na fydd yn cydymffurfio ag "unrhyw orchymyn San Steffan" i chwifio baner Jac yr Undeb o'i adeiladau.
Mae cais cynllunio llwyddiannus gan Lywodraeth y DU i arddangos baner enfawr Jac yr Undeb ar ochr adeilad Cyllid a Thollau EM yng Nghaerdydd wedi tanio dadl genedlaethol.
Wrth ymateb i gwestiwn yn ystod y cyfarfod llawn o'r cyngor ddydd Iau, dywedodd aelod o gabinet Cyngor Gwynedd nad oes unrhyw gynlluniau i chwifio'r faner o adeiladau'r cyngor, a hynny er gwaethaf canllawiau newydd Llywodraeth y DU.
Dywedodd Nia Wyn Jeffreys, Aelod y Cabinet dros Gefnogaeth Gorfforaethol, y byddent yn parhau i chwifio'r Ddraig Goch uwchben Siambr Dafydd Orwig yng Nghaernarfon, yn ôl North Wales Live.
Darllenwch y stori'n llawn yma.