Newyddion S4C

Twf o 0.8% i'r economi ym mis Mai

09/07/2021
NS4C

Fe dyfodd economi'r DU 0.8% ym mis Mai medd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddydd Gwener.

Er y cynnydd, mae cyfradd Cynnyrch Domestig Gros (GDP) 3.1% yn is na'r cyfnod pan roedd y gyfradd ar ei huchaf cyn y pandemig.

Fe welwyd cynnydd o 37.1% ym maes gwasanaethau llety a bwyd wrth i'r sector ail-agor yn dilyn y cyfnodau clo.

Fe welwyd gostyngiad o 16.5% yn y maes gweithgynhyrchu offer ar gyfer trafnidiaeth, ac roedd gostyngiad hefyd o 0.8% yn y sector adeiladu yn ystod y mis - er ei fod 0.3% yn uwch na'r cyfnod cyn y pandemig.

Mae Cynnyrch Domestig Gros yn mesur gweithgarwch economaidd sy'n cynnwys gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir gan y DU mewn cyfnod penodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.