'Bil ysgaru' Brexit yn uwch na rhagolygon y llywodraeth
09/07/2021
Mae "bil ysgaru" Brexit y DU yn uwch na rhagolygon y llywodraeth, yn ôl amcangyfrifon o Frwsel.
Mae disgwyl i'r swm fod yn €47.5bn (£40.8bn), gyda rhan gyntaf o'r taliad, €6.8bn, i gael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn 2018, amcangyfrifodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol fil Brexit gwerth €41.4bn (£37.1bn), gyda swyddogion llywodraeth y DU yn dweud y byddai'r bil terfynol oddeutu £35-39bn.
Mae'r bil yn cyfrannu at gyfran y DU o ddyledion yr UE yn ystod eu 47 mlynedd o aelodaeth, sy'n cynnwys talu am brosiectau seilwaith, pensiynau a budd-daliadau salwch i swyddogion yr UE, meddai The Guardian.
Darllenwch y stori'n llawn yma.