Josh Tarling allan o ras y Vuelta a España ar ôl dioddef damwain arall
Mae'r Cymro Josh Tarling allan o ras y Vuelta a España ar ôl dioddef damwain arall - wythnos wedi iddo gael damwain flaenorol yn yr un ras.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar y nawfed cymal o'r ras.
Dywedodd ei dîm Ineos Grenadiers nos Sul nad oedd modd iddo barhau er ei fod wedi dychwelyd i'r ras am gyfnod byr yn dilyn y ddamwain.
"Roedd Josh yn gallu aileistedd ar ei feic i ddechrau ond nid oedd yn gallu parhau. Bydd yn cael ei wirio gan staff meddygol INEOS Grenadiers. Diweddariad pellach i ddilyn."
Mae Tarling o Aberaeron wedi dioddef sawl anffawd yr haf hwn.
Fe wnaeth fethu hawlio medal yn y ras yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd ym Mharis ychydig wythnosau'n ôl.
Pedwerydd oedd y Cymro yn y pen draw, wedi iddo ddioddef anffawd ar ddechrau'r ras honno.
Roedd yn rhaid iddo newid ei feic o fewn tua pum munud yn unig o gychwyn yn y ras, wedi iddo gael twll i’w deiar blaen.
Inline Tweet: https://twitter.com/INEOSGrenadiers/status/1827730209027858658?ref_src=twsrc%5Egoogle%7Ctwcamp%5Eserp%7Ctwgr%5Etweet