Tri wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad ar ddyn yng Nghaernarfon
24/08/2024
Mae tri dyn wedi eu harestio yn dilyn ymosodiad ar ddyn yng Nghaernarfon bnawn Sadwrn.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi eu galw i ddigwyddiad yn Llys Arfon, Pendalar, am 17:30.
Fe wnaeth y dyn ddioddef anaf i'w ben yn ystod yr ymosodiad.
Mae'r tri dyn sydd dan amheuaeth yn y ddalfa ac mae swyddogion yr heddlu'n cynnal ymchwiliadau o ddrws i ddrws yn yr ardal.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un oedd wedi gweld y digwyddiad i ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod q127730.
Llun: Google