Rhybudd i deithwyr yn dilyn 'gwrthdrawiad difrifol' yn y Bermo
23/08/2024
Mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio teithwyr i osgoi ardal y Bermo yng Ngwynedd yn dilyn "gwrthdrawiad difrifol" rhwng dau gerbyd.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A496 ddydd Gwener.
Mae'r ffordd yn parhau ar gau ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal.
Llun: Google Maps