Cwestiynu 'hygrededd' taith y Llewod i Dde Affrica

Cwestiynu 'hygrededd' taith y Llewod i Dde Affrica
Mae cyn-faswr Cymru a'r Llewod, Gareth Davies, wedi cwestiynu hygrededd taith y Llewod i Dde Affrica eleni.
Daeth y cyhoeddiad heddiw y bydd tîm Warren Gatland yn wynebu'r Sharks am yr eildro mewn ychydig ddyddiau'r penwythnos hwn - dewis sydd wedi ei ddisgrifio fel “ffars” gan gyn-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru.
"Mewn ffordd ma' hygrededd y daith mewn cwestiwn fi'n credu," meddai Gareth Davies wrth raglen Newyddion S4C.
"Mae chwarae dydd Sadwrn yn erbyn yr un tîm a neithiwr yn gwneud tamed bach o ffars o'r peth fi'n credu.
"Fi'n siŵr os byse hon yn daith ryngwladol, Cymru neu Lloegr neu rywbeth fel 'na yn erbyn De Affrica, falle byddai'r daith wedi cael ei galw off erbyn nawr."
Cytunodd y Sharks i chwarae’r Llewod eto ar ôl i’r Bulls dynnu nôl oherwydd achosion Covid-19.
Curodd y Llewod y Sharks nos Fercher 54-7, a hynny er y bu rhaid gwneud newidiadau funud olaf i dîm y Llewod ar ôl i 14 o chwaraewyr orfod hunan ynysu.
Mae problemau hefyd yng ngharfan De Affrica - mae 12 achos o Covid-19 wedi eu cofnodi ymhlith chwaraewyr a staff.
Wrth i'r drydedd don daro'r wlad, mae’r Springboks wedi gohirio eu gêm yn erbyn Georgia nos Wener.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae nifer yr achosion yn y wlad wedi codi 25% ers yr wythnos ddiwethaf.
Yn y pedair awr ar hugain diwethaf cofnodwyd 21,427 o achosion newydd a 411 o farwolaethau yn Ne Affrica.
'Y gyfres sy'n bwysig'
Cwestiynodd Gareth Davies y dewis hefyd i chwarae gemau canol wythnos o gwbl eleni o dan yr amgylchiadau.
"Bydden i'n bersonol yn meddwl falle dylen nhw ddim chwarae dros y penwythnos, dyle nhw gael wythnos bant.
"Os rywbeth dim chwarae un gêm cyn y profion, achos fi'n credu'r gyfres sy'n bwysig."
"Os yw hwnna'n mynd i sicrhau diogelwch y chwaraewyr fydden i'n tueddi i fynd lawr y cyfeiriad 'na."
Fe fydd y gic gyntaf am 17:00 nos Sadwrn.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans