Teyrngedau i ddynes ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ger Llangollen

Mae teulu dynes ifanc fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Abby Hill, 19, o Acrefair, Wrecsam yn dilyn gwrthdrawiad ar Y Berwyn ger Llangollen yn hwyr nos Sadwrn.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Stoke wedi'r digwyddiad, ond cyhoeddodd yr heddlu ei bod wedi marw nos Lun.
Mae ei theulu wedi ei disgrifio fel "cannwyll eu llygaid".
Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Roedd ei phersonoliaeth yn sefyll allan yn yr holl bethau roedd hi'n gwneud mewn bywyd, yn gweithio fel gweinyddes llawn amser yng Ngwesty'r Chainbridge, roedd hi'n caru hyn a chafodd effaith enfawr yno ar y staff a'r cwsmeriaid.
"Roedd ei chariad at gemau, glanhau, harddwch a gwneud ewinedd a cholur hefyd yn bethau enfawr yn ei bywyd.
"Roedd hi'n dysgu dreifio ac yn agos i drio ei phrawf gyrru, oedd am roi ychydig mwy o annibyniaeth iddi.
“Bydd y cariad a’r anwyldeb sydd gennym tuag ati bob amser gyda ni a bydd hi bob amser yn ein calonnau gan adael effaith enfawr arnom ni fel teulu yn ogystal â phawb arall a gafodd gyfle i ddod i’w hadnabod.”
Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud bod gyrrwr 27 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol ac mae bellach wedi'i ryddhau o dan ymchwiliad tra mae ymholiadau yn parhau.
Mae'r llu yn apelio am wybodaeth.