Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol cartrefi gofal yng Nghymru yn sgil newidiadau i reolau mewnfudo

Newyddion S4C 20/08/2024

Pryder am ddyfodol cartrefi gofal yng Nghymru yn sgil newidiadau i reolau mewnfudo

Fe allai mwy o gartrefi gofal yng Nghymru gau oherwydd newidiadau i reolau mewnfudo Llywodraeth Prydain, meddai Fforwm Gofal Cymru.

Ers mis Mawrth eleni does dim modd i’r mwyafrif sy’n dod i Brydain i weithio yn y sector gofal ddod â’u teuluoedd hefo nhw, wrth i’r llywodraeth geisio gostwng y niferoedd sy'n mewnfudo i’r DU.

Yn ôl un cartref gofal yn Nyffryn Conwy mae diffyg diddordeb yn lleol yn ei gwneud yn ddibynnol ar weithwyr tramor.

Dywedodd Llywodraeth Prydain eu bod wedi ymrwymo i ostwng niferoedd "hanesyddol uchel" o fewnfudo gyda’r bwriad o "hyfforddi mwy o weithwyr" ym Mhrydain.

Mae ystadegau’n dangos bod y nifer sy’n gwneud cais am fisa i’r Deyrnas Unedig er mwyn gweithio yn y sector gofal wedi gostwng 80% yn chwarter cyntaf 2024.

Un cartref sy’n "ddibynnol" ar staff o dramor ydi Cartref Bryn yr Eglwys ym Mhentrefoelas.

Yma mae gofalwyr o ddeg o wledydd gwahanol yn gweithio ochr yn ochr i ofalu am 30 o breswylwyr.

“Da ni ‘di bod yn trio recriwtio’n lleol ers blynyddoedd ond does 'na neb yn ceisio am y gwaith,” meddai Meryl Welsby, Rheolwr y Cartref.

“Does neb eisiau gweithio penwythnos, nos a dydio ddim yn attractive.

Yn ôl Ms Welsby mae’r newidiadau gan y Llywodraeth hefyd yn gwneud y sefyllfa yn fwy heriol.

“Ma’n iawn i’r llywodraeth ddweud, 'o wel ‘ da chi’m yn cael recriwtio o dramor i ddod ag ystadegau ni lawr' ond y peth ydi, lle da ni’n mynd i recriwtio?

“Does 'na’m lle’m byd arall inni neud.”

Gyda nifer o weithwyr o dramor, mae’r cartref gofal yn Nyffryn Conwy wedi bod yn gweithio i geisio dysgu ychydig o Gymraeg i’r gweithwyr.

Mae George Michael yn dod yn wreiddiol o dde India ac yn dweud bod dysgu ychydig o frawddegau yn cael effaith fawr ar breswylwyr.

“Dwi’n dweud, ‘bore da’, pan dwi’n dod i mewn a ‘ti’n iawn’ neu ‘sut yda chi’."

Image
George Michael
Dywedodd George Michael, sy'n dod yn wreiddiol o Dde India, y gallai polisi mewnfudo'r llywodraeth gael effaith negyddol

Ychwanegodd ei fod yn credu y gallai polisi mewnfudo'r llywodraeth gael effaith negyddol.

Mae’r Uwch Ofalwraig Elain Morris newydd dderbyn gwobr genedlaethol am ddarparu gofal drwy’r Gymraeg a hynny o safon.

Mae hithau’n dweud bod defnydd y Gymraeg yn y sector yn hanfodol.

“Mae’n helpu teuluoedd ac ar ddiwedd y dydd ma’n bwysig bod yr hen bobl yn cael y gofal ma nhw’n ei haeddu.”

Ddechrau’r flwyddyn, fe ddaeth rheolau i rym yn golygu nad oes modd i weithwyr y sector iechyd a gofal, a myfyrwyr sy’n dod i Brydain ddod â’u teulu yma mewn ymgais i fynd i’r afael â niferoedd mewnfudo.

Cyn hyn fe gafodd rheolau eu llacio yn 2021 wnaeth wneud hi’n haws i weithwyr iechyd a gofal o dramor ddod i Brydain wedi Brexit.

Tra bod angen rhediad parhaus o ddata i ddod i unrhyw ganlyniad cadarn, mae’r ystadegau cychwynnol yn awgrymu gostyngiad sylweddol yn y nifer sy’n gwneud cais o dramor i ddod i weithio o fewn y sector.

Yn ôl Fforwm Gofal Cymru mae nhw’n poeni y gallai'r newidiadau i reolau arwain at broblemau mawr.

“Mae’n mynd i fod yn bryder mawr yn y blynyddoedd nesaf”, meddai Kim Ombler sy’n berchennog Cartref Gofal ar Ynys Môn ac yn llefarydd ar ran Fforwm Gofal Cymru.

“Os na allwn gael gweithwyr o dramor a hefyd methu cael gweithwyr lleol i lenwi’r bwlch.”

“Mae na bryder mawr allai cartrefi gau oherwydd hyn,” meddai.

Ychwanegodd hefyd bod prosesau noddi gweithwyr gofal a biwrocratiaeth hefyd yn gwneud y broses yn fwy heriol.

Yn ôl Llywodraeth Prydain mae “cynllun clir er mwyn gostwng niferoedd uchel o fewnfudo cyfreithlon”.

“Wrth gyfuno mewnfudo, y farchnad lafur a system sgiliau rydym yn sicrhau bod modd tyfu'r gweithlu” ym Mhrydain.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae “recriwtio a chadw staff mewn gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn her  sylweddol”.

Dywedodd bod gan y llywodraeth bryderon am gyhoeddiad Llywodraeth flaenorol y DU i gyfyngu ar ddibynyddion yn dod i Brydain.

 Er hyn dywed, “nad oes digon o ddata eto i ddangos tystiolaeth” gadarn o’r tuedd a’u bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Prydain i ymgysylltu’n well gyda Llywodraethau datganoledig.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.