'Boncyrs': Gwrthod cais teulu i adeiladu pedwar tŷ 'fforddiadwy' gwerth £400,000 ger Aberteifi
Mae cais cynllunio i adeiladu pedwar cartref "fforddiadwy" gwerth £400,000 yr un ger Aberteifi fyddai ar gyfer aelodau o’r un teulu wedi cael ei wrthod.
Mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio, clywodd aelodau gan un uwch swyddog cynllunio bod eu galw’n "fforddiadwy" yn “boncyrs”.
Mewn cais i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ceredigion ym mis Awst, gofynnodd teulu lleol am ganiatâd ar gyfer y pedwar cartref yn Heol Cae Morgan, ger Aberteifi, sydd ar hyn o bryd yn gae amaethyddol drws nesaf i'r cartref teuluol presennol.
Dywedodd y cais fod archwiliadau eiddo wedi eu cynnal ar gyfer cartrefi amgen yn lleol, rhwng £300,000 a £350,000, gyda'r mwyafrif angen eu moderneiddio neu eu trwsio.
Cefnogwyd y cais gan Gyngor Tref Aberteifi, ond roedd pryderon wedi’u codi gan aelodau’r cyhoedd ynghylch yr effaith ar eiddo cyfagos.
Dywedodd Pennaeth Cynllunio Ceredigion, Russell Hughes-Pickering, wrth yr aelodau: “Dydw i ddim yn deall pam ein bod ni’n cael llawer o drafodaeth,” gan ddweud wrth aelodau'r pwyllgor y gallai ddeall eu cydymdeimlad wrth geisio darparu tai i ymgeiswyr lleol.
Ond fe gododd bryderon difrifol am faint y tai, gan eu disgrifio fel rhai nad oedd “yn amlwg yn fforddiadwy”.
“Mae unrhyw un sy’n edrych ar y cais ac yn meddwl eu bod yn dai fforddiadwy yn boncyrs, nid yw’r rhain yn dai fforddiadwy: maint yr eiddo, maint y lleiniau, gwerth y tai; dydyn nhw ddim yn fforddiadwy.”
Awgrymodd un aelod o'r pwyllgor y dylid cynnal ymweliad â'r safle er mwyn gweld y cynlluniau yn fwy manwl.
Trechwyd yr alwad i ohirio’r cais ac fe gafodd ei wrthod.