Nifer uchel o achosion coronafeirws yn ardal Amlwch ar Ynys Môn
Mae Cyngor Môn wedi cyhoeddi fod nifer uchel o achosion coronafeirws yn ardal Amwlch o'r ynys.
Roedd 26 achos positif o'r haint rhwng 1 a 7 Gorffennaf gyda "nifer helaeth o gysylltiadau sydd wedi eu hadnabod hefyd nawr yn hunanynysu" medd y cyngor.
Dywed y cyngor fod nifer fawr o'r achosion positif yn gysylltiedig gyda phobl yn ymgynnull yn gymdeithasol a throsglwyddiad o’r feirws mewn mannau gwaith.
Bydd tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn cysylltu gydag unigolion sydd wedi eu heffeithio, ac mae nifer helaeth o gysylltiadau sydd wedi eu hadnabod hefyd yn hunanynysu.
Dywed y cyngor fod angen i bobl sydd yn byw yn ardal Amlwch ag sydd yn dangos symptomau drefnu prawf Covid-19.
Mae canolfan brofi wedi ei lleoli ar un o feysydd parcio Swyddfa’r Sir yn Llangefni gyda mynediad iddo drwy Lôn Stad Ddiwydiannol Llangefni.
Mae'r ganolfan ar agor rhwng 09:30 a 15:30, saith diwrnod yr wythnos.