Lloegr yn wynebu cyhuddiadau gan UEFA ar ôl gêm Euro 2020

Sky News

Mae UEFA wedi agor achos disgyblu yn erbyn Lloegr ar ôl eu gêm Euro 2020 yn erbyn Denmarc.

Mae'r corff yn ymchwilio ar ôl i gefnogwyr Lloegr anelu golau laser i lygaid gôl geidwad Denmarc, Kasper Schmeichel, ac am fŵian yn ystod anthem genedlaethol y wlad.

Mae UEFA hefyd yn ymchwilio ar ôl i dân gwyllt gael ei danio yn Wembley yn ystod y gêm, meddai Sky News.

Fe wnaeth Lloegr ennill y gêm 2-1, a byddant yn herio'r Eidal yn y rownd derfynol ddydd Sul.

Darllenwch y stori'n llawn yma.