Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o Sir Gâr o achosi niwed corfforol difrifol

18/08/2024
jivan dean.png

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol a thaflu sylwedd dros berson yn Sir Gâr. 

Cafodd Jivan Dean, 23, ei gyhuddo wedi'r digwyddiad yn Llandeilo ar 14 Awst. 

Roedd presenoldeb heddlu cynyddol mewn rhannau o Sir Gâr wrth i swyddogion wneud ymholiadau i geisio dod o hyd iddo. 

Roedd hyn yn cynnwys chwilio mewn tafarndai yn Llanelli ddydd Iau. 

Brynhawn Gwener, wedi nifer o adroddiadau gan aelodau'r cyhoedd, cafodd ei arestio yn ardal Llanelli. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.