Newyddion S4C

Enwi carfan Cymru fydd yn wynebu'r Ariannin

08/07/2021
Wayne Pivac yn ystod ymarfer tîm rygbi Cymru

Mae carfan tîm rygbi Cymru fydd yn herio'r Ariannin wedi ei gyhoeddi.

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 13.00.

Mae gobeithion carfan Wayne Pivac yn uchel wedi i'w dîm lwyddo i roi crasfa i Ganada'r penwythnos diwethaf. 

Ond, mae'r tîm yn edrych yn wahanol y tro hyn wedi i Leigh Halfpenny ddioddef anaf yn ystod ei 100fed cap rhyngwladol.

Mae tri newid wedi ei wneud i'r 15 fydd yn dechrau'r gêm.

Carfan Cymru: Hallam Amos, Jonah Holmes, Willis Halaholo, Jonathan Davies, Owen Lane, Callum Sheedy, Kieran Hardy, Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Ben Carter, Will Rowlands, Ross Moriarty, James Botham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Ryan Elias, Gareth Thomas, Leon Brown, Josh Turnbull, Taine Basham, Tomos Williams, Jarrod Evans, Nick Tompkins

Bydd y gêm yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C ddydd Sadwrn, gyda'r sylwebaeth yn dechrau am 12.30.

Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.