Newyddion S4C

Mpox: Cynghori teithwyr i rai gwledydd yn Affrica i gael eu brechu

17/08/2024
Brechlyn Mpox

Mae corff iechyd cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud ei bod yn “debygol iawn” y bydd gan Ewrop “fwy o achosion o mpox wedi’u mewnforio” ar ôl i’r firws gael ei ganfod mewn o leiaf 16 o wledydd Affrica.

Mae’r corff wedi cynghori pobl i gael eu brechu rhag mpox os ydyn nhw'n teithio i wlad yn Affrica sydd wedi'i heffeithio gan yr achosion diweddaraf.

Mae'r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau (ECDC) wedi diweddaru’r cyngor ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ddatgan argyfwng byd-eang ar ôl canfod straen mwy heintus o'r firws mewn 16 o wledydd Affrica.

Mae Burundi, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, De Affrica, a Nigeria hefyd wedi cofnodi achosion, meddai Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae'r afiechyd heintus iawn – gafodd ei alw gynt yn frech y mwncïod - wedi lladd o leiaf 450 o bobl yn ddiweddar yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Fe gadarnhaodd Pacistan ddydd Gwener achos o'r firws mewn claf a oedd wedi dychwelyd o wlad yn y Gwlff.

Dywedodd Dr Jean Kaseya, cyfarwyddwr cyffredinol Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau Affrica, fod yna achosion mewn 16 o wledydd yn Affrica, gan gynnwys Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, lle gwelwyd yr achos gyntaf.

“Am y tro cyntaf, mae gennym ni wledydd fel Y Traeth Ifori, Kenya, Rwanda ac Uganda yn adrodd achosion,” meddai.

Symptomau

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod un achos wedi ei ddarganfod yn Ewrop.

Mae mpox yn cael ei drosglwyddo trwy gyswllt agos, fel rhyw, cyswllt croen-i-groen a siarad neu anadlu'n agos at berson arall.

Mae'n achosi symptomau tebyg i ffliw, briwiau croen a gall fod yn angheuol, gyda phedwar o bob 100 o achosion yn arwain at farwolaeth.

Mae dau brif fath o mpox - Clade 1 a Clade 2. Fe achoswyd argyfwng iechyd cyhoeddus mpox blaenorol yn 2022, gan achosion o Clade 2, sydd yn gymharol ysgafn.

Bryd hynny fe gofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru 40 achos o’r haint yng Nghymru.

Mae'r symptomau cyntaf yn cynnwys tymheredd uchel, cur yn pen, poen yn y cyhyrau, ooen cefn, chwarennau chwyddedig(Swollen glands), blinder a phoen yn y cymalau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.