Newyddion S4C

Canlyniadau Safon Uwch: Gostyngiad arall yn nifer y graddau A*-A

16/08/2024

Canlyniadau Safon Uwch: Gostyngiad arall yn nifer y graddau A*-A

Nerfusrwydd ond cyffro hefyd wrth i fyfyrwyr y coleg dderbyn eu canlyniadau heddiw.

Reit hapus.

Hapus iawn i gael o drosodd ond dw i'n rili hapus efo'r rhain.

Dw i 'di cael confirmation gan yr uni so dw i'n gwybod bob dim.

Dw i'n reit hapus.

Dw i 'di derbyn cynnig gan Prifysgol Bristol i astudio Biocemeg.

Mae AS yn gam mawr o neud TGAU so bod yn barod i neud mwy o waith ond lot o hwyl neud y subjects dw i'n mwynhau neud.

Ond nid pawb sy'n mynd i'r brifysgol ar ol heddiw.

Mae yna ostyngiad wedi bod yn nifer y bobl ifanc 18 oed sydd yn ceisio am le mewn prifysgolion.

33% eleni o'i gymharu a bron i 42% draws y Deyrnas Unedig.

Dw i 'di cael cynnig swydd mewn ysgol gynradd.

Dw i 'di cymryd y swydd so dw i'n dechra'n fanna mis Medi.

Ar ol i fi neud profiad gwaith o'n i'n meddwl dw i isio neud hyn yn syth ar ol gadael coleg.

Dw i rili joio bod yn byd gwaith.

Dan ni'n gweld fwy o opsiynau tu allan i'r brifysgol sy'n gret.

Mae pobl yn edrych mewn i brentisiaethau, mynd i waith neu gymryd amser i feddwl be maen nhw isio neud.

'Dan ni hyd yn oed yn gweld mwy o bobl yn entrepreneurs ifanc.

Pobl yn dechre busnesau eu hunain.

Mae hynna'n gret.

Yn 2020 a 2021 cafodd arholiadau eu canslo oherwydd y pandemig a'r athrawon oedd yn rhoi'r graddau bryd hynny.

Y llynedd, roedd cymorth ychwanegol mewn lle hefyd oherwydd effeithiau y pandemig.

Ond, eleni, mae'r arholiadau wedi dychwelyd yn ol i'r hyn oedden nhw cyn 2020.

Ond er hynny, mae cysgod y pandemig yn parhau o hyd.

Yndi yn sicr dan ni'n gweld hynny yn ystod y flwyddyn yn eu hymagwedd at y gwaith neu iechyd meddwl, wrth gwrs.

Mae 'na nifer o bethe 'dan ni 'di roi mewn lle yn ystod y flwyddyn i gefnogi yn ychwanegol.

O'r canlyniadau 'dan ni'n gweld bod hynna wedi talu ar ei ganfed.

Mae'n canlyniadau ni yn uwch nag oedden nhw cyn Covid.

Dan ni'n falch.

Gyda'r arholiadau nol i'r arfer eleni, mae'r graddau hefyd yn adlewyrchu hynny gyda chanran y graddau A ac A serennog yn 29.9% eleni, o gymharu a 34% y llynedd.

We wanted to return to the pre-pandemic arrangements.

It's important to protect the value of young people's qualifications and their comparability with the rest of the UK.

Northern Ireland have taken the same steps as us this year.

England did it last year.

It was the final step back to the pre-pandemic arrangements.

That's not to take anything away from these learners who've lived with Covid through much of their education.

That does mean that their achievements are really special.

Yn ol Cymwysterau Cymru mae'n bwysig i bobl ifanc, prifysgolion a chyflogwyr fod y system yn dychwelyd i'r drefn arferol fel bod gwerth Lefel A yng Nghymru yr un peth a gwerth Lefel A yng Ngogledd Iwerddon neu'n Lloegr.

Diwrnod arwyddocaol ym mywydau'r myfyrwyr ifanc yma heddiw wrth iddyn nhw ddechrau ar y bennod nesaf yn eu bywydau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.