Newyddion S4C

Prifysgolion Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol 'ddrwg iawn'

Newyddion S4C 16/08/2024

Prifysgolion Cymru yn wynebu sefyllfa ariannol 'ddrwg iawn'

Mae Prifysgolion Cymru yn "wynebu sefyllfa ariannol drwg iawn" yn ôl economegydd ac academydd blaenllaw.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans bod cyfuniad o ffactorau yn golygu bod her ariannol sylweddol yn wynebu nifer o sefydliadau addysg uwch Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r pwysau ariannol ar brifysgolion drwy Gymru a'r DU a'u bod nhw wedi codi ffioedd myfyrwyr i £9,250 y flwyddyn.

Yn ôl yr Athro Jones-Evans, mae sawl prifysgol wedi bod yn or-ddibynnol ar ddenu myfyrwyr o dramor yn ddiweddar.

Ac mae newidiadau i fisas gan Lywodraeth y DU hefyd yn golygu na all teuluoedd fyw yng Nghymru tra bod myfyrwyr yn astudio, yn golygu bod y niferoedd wedi cwympo yn ddramatig.

Image
Dylan Jones-Evans
Yr Athro Dylan Jones-Evans

Gyda myfyrwyr tramor yn talu ffioedd uwch na rhai cartref, mae'r gostyngiad wedi taro sawl sefydfliad.

"Mae 'na broblemau ariiannol ym mhob prifysgol. Felly mae'r prifysgolion gorau wedi gwneud mwy o lefydd ar gael er mwyn dod a mwy o fyfyrwyr mewn," meddai'r Athro Jones-Evans.

"Yma yng Nghymru, dim ond un prifysgol - Caerdydd - sydd yn y grŵp yma.

"Ar ben y broblem 'ma o gostau wedi mynd i fyny a'r ffioedd cartref ddim gwerth cymaint ag oedden nhw [oherwydd chwyddiant] a'r gostwng mewn nifer o fyfyrwyr o dramor, mae hwn ar ei ben o, yn fy marn i am adael ambell i brifysgol mewn sefyllfa ariannol drwg iawn."

'Twll ariannol sylweddol'

Wedi i fyfyrwyr dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch ddydd Iau, mae'r Athro Dylan Jones-Evans yn rhybuddio nawr y gallai'r wythnosau nesaf fod yn rhai tyngedfennol i brifysgolion.

"Yn naturiol, mae myfyrwyr am fynd i'r prifysgolion gorau. Mae rhai felly yn mynd i rai brifysgolion 'gwell' na'r rhai roedden nhw wedi eu dewis sydd nawr â llefydd ar gael.

"Yr her i'r prifysgolion sydd heb lawer o arian yn y banc yw faint o arian allan nhw sicrhau ym mis Medi - sydd yn ddibynnol ar faint o fyfyrwyr o Gymru a thramor maen nhw'n recriwtio.

"Os oes ambell sefydliad yn denu llai na'r hyn maen nhw'n rhagweld, gallai hynny greu twll ariannol sylweddol.

Gwen Williams yw cyfarwyddwr cynorthwyol Prifysgolion Cymru, y corff sydd yn cynrychioli sefydliadau addysg uwch Cymreig.

Mae hi hefyd yn dweud bod sefyllfa ariannol anodd yn wynebu prifysgolion.

"Dydy'r system sydd gennym ni ar hyn o bryd ddim yn  gweithio. Nid yn unig bod costau yn cynyddu'n gyflymach nag incwm, ond ry'n ni hefyd yn gweld newidiadau yn y system fewnfudo yn effeithio ar nifer y myfyrwyr tramor sydd yn dod yma i astudio.

"Mae 'na sawl ffactor yn fan hyn sydd yn  achosi problem i'r sector."

Image
Deio Owen
Deio Owen

Galw am adolygu model ariannu prifysgolion mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol Cymru, Deio Owen.

"Mae prifysgolion yno er lles cenedlaethau'r dyfodol a bod gan Gymru weithlu sydd a'r sgiliau sydd ei angen.

"Mae angen sicrhau bod yr addysg yno ac mae angen sbio i ffwrdd o brifysgolion 'hyper commercialised' fel bod o ddim  yn sefyllfa mai cwsmeriaid yw myfyrwyr a bod o'n wasanaeth cyhoeddus sydd ar gael i bobl."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi caniatáu cynnydd o £250 y flwyddyn mewn ffioedd myfyrwyr er mwyn cydnabod y cynnydd mewn cost darparu addysg prifysgol.

Nododd y llywodraeth hefyd eu bod nhw'n "cydnabood rôl bwysig prifysgolion tu hwnt i'w gweithredoedd ym mydoedd busnes ac academia. Maen nhw'n cyfrannu at eu cymunedau lleol ac yn cefnogi pobl drwy Gymru drwy bartneriaethau a phrosiectau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.