Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymddiswyddo
Mae llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Stephen Williams, wedi ymddiswyddo.
Nid yw corff llywodraethu pêl-droed Cymru wedi datgelu y rheswm pam ei fod wedi gadael.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fis diwethaf fod Stephen Williams, 60, wedi ei atal o'i waith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Ddydd Iau dywedodd y gymdeithas: “Ar ôl trafodaethau pellach, mae Mr Stephen Williams wedi penderfynu ymddiswyddo o bob un o'i rolau o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cydnabod y gwaith caled a’r gefnogaeth a roddwyd gan Mr Stephen Williams fel cefnogwr pêl-droed a llywydd i bêl-droed Cymru a’i ddatblygiad, o fewn Cymru ac ar y llwyfan rhyngwladol dros y 37 mlynedd diwethaf.”
Inline Tweet: https://twitter.com/swilliams6464/status/1824188552797712776
Cafodd Mr Williams ei ethol yn llywydd y gymdeithas bêl-droed yn 2021.
Yn rhan o’i ddyletswyddau fel llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, roedd Mr Williams yn gyfrifol am oruchwylio pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru, ac mi oedd yn rhan o’r penderfyniad i ddiswyddo Rob Page fel rheolwr tîm y dynion fis Mehefin.
Y llynedd, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei fod wedi torri pob cysylltiad ag un o’u cyn-lywyddion, Phil Pritchard, yn dilyn camau disgyblu.
Roedd ymchwiliad ar y pryd wedi dod i’r casgliad ei fod wedi gwneud sylwadau 'misogynistaidd' oedd yn gwahaniaethu ar sail rhyw mewn cinio cyn gêm tra oedd yn aelod o’r cyngor.