Dioddefwyr sgandal gwaed i dderbyn taliadau cymorth am oes
Bydd dioddefwyr y sgandal gwaed yn yr 1970au a'r 80au yn derbyn taliadau gan gynllun cymorth am oes, meddai Llywodraeth Prydain.
Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd taliadau cynllun cymorth ar gyfer dioddefwyr y sgandal gwaed wedi'i heintio – gan gynnwys partneriaid mewn profedigaeth – yn parhau am oes, a hynny ar wahân i'r taliadau iawndal.
Cafodd 283 o gleifion yng Nghymru wedi’u heintio â hepatitis C yn y 70au a’r 80au. O’r rheini, roedd 55 hefyd wedi’u heintio â HIV.
Bydd rhai pobl sydd wedi eu heffeithio hefyd yn cael taliad “effaith gymdeithasol” i gydnabod sgil effeithiau'r stigma sy’n gysylltiedig â’r trychineb.
Daw hyn wrth i'r Llywodraeth gyhoeddi ei bod wedi derbyn y “mwyafrif” o argymhellion gan ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal gwaed wedi'i heintio.
Bydd dioddefwyr a gafodd eu defnyddio'n ddiarwybod ar gyfer ymchwil hefyd yn gymwys i gael £10,000 ychwanegol, gyda dyfarniad uwch o £15,000 i’r rhai a gafodd driniaeth fel plant mewn achos yng Ngholeg Treloar yr Arglwydd Faer.
Yn ôl Swyddfa'r Cabinet, bydd pobl wedi eu heintio – boed yn fyw neu'n farw – yn dechrau derbyn taliadau trwy'r fframwaith newydd erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd y rhai eraill sydd wedi eu heffeithio gan y sgandal yn dechrau derbyn taliadau yn 2025, meddai.
Beth yw'r sgandal gwaed?
Cafodd mwy na 30,000 o bobl HIV a Hepatitis C ar ôl iddyn nhw gael gwaed neu drallwysiad gwaed oedd wedi ei heintio.
Mae 3,000 o bobl ym Mhrydain wedi marw ers derbyn y gwaed yn y 70au ac 80au.
Yn eu mysg oedd Colin Smith o Gasnewydd a fu farw yn saith oed yn 1990 ar ôl derbyn cynnyrch gwaed heintiedig gan yr Athro Arthur Bloom, meddyg byd-enwog yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd yr ymchwiliad i'r sgandal bod y "gwir wedi cael ei guddio" a bod dioddefwyr wedi cael eu "methu dro ar ôl tro" gan feddygon, y GIG a’r Llywodraeth.
Ar ôl i ganfyddiadau'r ymchwiliad gael eu cyhoeddi fis Mai, dywedodd y Llywodraeth y byddai dioddefwyr yn cael taliadau iawndal.
Cafodd yr uwch fargyfreithiwr, Syr Robert Francis KC, ei enwi fel cadeirydd dros dro'r Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig.
Ers hynny, mae wedi gwneud 75 o gynigion i fynd i’r afael â phryderon am y cynlluniau iawndal presennol.
Roedd y rhain yn cynnwys dyfarniad uwch i’r rhai a oedd wedi bod yn rhan o achos “erchyll” o brofi anfoesegol yn ysgol Treloar, yn ogystal â chynnydd yn y taliad “effaith gymdeithasol” i'r rhai a gafodd eu heffeithio.
Yn ôl yr ymchwiliad, cafodd disgyblion yn y coleg driniaeth am hemoffilia gan ddefnyddio cynhyrchion gwaed oedd wedi’u heintio â HIV a hepatitis. Fe wnaeth clinigwyr y GIG barhau â thriniaethau i ddatblygu eu hymchwil feddygol er eu bod yn ymwybodol o'r peryglon.
Dywedodd y Llywodraeth y byddai hefyd yn codi’r taliad effaith gymdeithasol i'r rhai sydd wedi byw yn yr un cartref â pherson heintiedig am fwy na dwy flynedd.
Ond ni chafodd holl argymhellion Syr Robert eu derbyn, gan gynnwys cynnig i uwchraddio taliadau cymorth y tu hwnt i chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr.
'Carreg filltir bwysig'
Dywedodd y Tâl-feistr Cyffredinol a gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Nick Thomas-Symonds: “Mae hon yn garreg filltir bwysig i ddioddefwyr ac ymgyrchwyr sydd wedi aros yn llawer rhy hir am gyfiawnder.
“Mae’r Llywodraeth wedi gwrando ar yr argymhellion gan Syr Robert Francis KC, wedi clywed y galwadau cryf am newid gan y gymuned ac wedi gweithredu.
“Rydyn ni’n mynd i wneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu iawndal yn gyflym, ac mewn llawer o achosion yn darparu symiau sy’n newid bywydau pobl sydd wedi’u heintio ac sydd wedi’u heffeithio gan y sgandal hwn.
“Rydym yn gwybod na all unrhyw swm o iawndal fynd i’r afael yn llawn â’r difrod i bobl a ddioddefodd o ganlyniad i’r sgandal hwn. Dyna pam, ochr yn ochr â’r iawndal, mae’n rhaid i ni fwrw ymlaen â’r newidiadau diwylliannol ehangach i wneud yn siŵr na fydd dim byd fel hyn byth yn digwydd eto.”