Newyddion S4C

Pêl-droed: Rheolwr Cei Connah Neil Gibson yn gadael y clwb

13/08/2024
Neil Gibson.

Mae Clwb Pêl-droed Cei Connah wedi cadarnhau bod eu rheolwr, Neil Gibson, wedi gadael y clwb.

Roedd Gibson wedi bod yn rheolwr ar y Nomadiaid ers mis Awst 2022.

Dan ei arweiniad, fe enillodd y clwb Gwpan Cymru JD y tymor diwethaf gyda buddugoliaeth 2-1 dros Y Seintiau Newydd yn y rownd derfynol.

Mewn datganiad byr ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd llefarydd ar ran y clwb: “Gall Cei Connah gadarnhau heddiw bod rheolwr y tîm cyntaf, Neil Gibson, wedi gadael y clwb.

“Hoffwn ddiolch i Neil am ei waith caled a’i ymdrechion ers ei benodiad yn Awst 2022 a dymunwn y gorau iddo yn y dyfodol.

“Bydd rhagor o gyhoeddiadau yn cael eu gwneud yn y 48 awr nesaf.”

Fe orffennodd Cei Connah yn yr ail safle yn y Cymru Premier y tymor diwethaf yn ogystal, gan sicrhau eu lle yng Nghyngres Europa y tymor hwn.

Colli 2-1 dros ddau gymal yn erbyn NK Bravo o Slofenia oedd eu hanes yn rownd ragbrofol gyntaf y gystadleuaeth.

Collodd y tîm hefyd eu gêm gyntaf yn nhymor y Cymru Premier ddydd Sadwrn, o 1-0 gartref yn erbyn Hwlffordd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.